Polisi Defnydd Derbyniol
Dyma'r polisi defnydd derbyniol, sydd, ynghyd â'n telerau defnyddio gwefan, yn nodi'r telerau dan yr hyn yr ydym ni ReConnected Life Ltd, Rhif Cofrestru 9842605 a Chyfeiriad Cofrestredig The Coach House, Ealing Green, London, W5 5ER yn caniatáu ichi ddefnyddio ein gwefan https://tor.rasawales.org.uk/ (“gwefan”) p'un a ydych chi'n ymwelydd neu'n ddefnyddiwr cofrestredig. Dylid cyfeirio pob ymholiad at hello@reconnected.life. Darllenwch delerau'r polisi hwn yn ofalus, oherwydd trwy ddefnyddio ein gwefan rydych chi'n nodi eich bod chi'n cytuno i gydymffurfio â nhw ac i gael eich rhwymo ganddynt.
DEFNYDDIAU O’N GWEFAN A WAHERDDIR
P'un a ydych chi'n ymwelydd neu'n ddefnyddiwr cofrestredig, rhaid i chi gydymffurfio â'n telerau defnyddio gwefan, a defnyddio ein gwefan at ddibenion cyfreithlon yn unig. Yn benodol, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan ar gyfer y defnyddiau a restrir (heb gyfyngiad) isod:-
- unrhyw weithgaredd twyllodrus;
- unrhyw weithgaredd sy'n torri unrhyw gyfraith neu reoliad cymwys, boed yn genedlaethol neu'n rhyngwladol
- unrhyw weithgaredd a allai achosi neu arwain at niwed i blentyn o dan 18 oed;
- anfon hysbysebu digymell neu gynnwys arall (sbam), neu ymrwymo i unrhyw drefniant i anfon deunydd o'r fath;
- atgynhyrchu, gwerthu neu drin ein gwefan neu ei chynnwys yn groes i'n telerau defnyddio gwefan;
- cyflwyno i'n gwefan yn fwriadol, neu drosglwyddo neu geisio trosglwyddo i unrhyw safle, cyfrifiadur neu rwydwaith arall, feirysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd, cod neu raglen arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol;
- ceisio sicrhau mynediad heb awdurdod i'n gwefan, ein meddalwedd, ein gweinydd, neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'n gwefan; neu
- ymosod ar ein gwefan trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth dosbarthedig.
CYFRANNU A RHYNGWEITHIO
Efallai y bydd ein gwefan yn cynnig cyfleusterau i ddefnyddwyr lanlwytho neu gyfrannu cynnwys neu ddeunydd arall, neu ryngweithio â defnyddwyr eraill. Wrth ddefnyddio'r cyfleusterau hyn, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw gyfraniad neu ryngweithio, hyd y gwyddoch, yn ffeithiol gywir, yn cynrychioli eich barn onest, ac nad yw'n torri unrhyw gyfraith neu reoliad cymwys.
Yn ogystal, rhaid i unrhyw gyfraniad neu ryngweithio beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd sydd (heb gyfyngiad):-
- yn ddifenwol, yn anweddus, yn dramgwyddus, yn atgas neu'n ymfflamychol;
- yn, neu’n cyfeirio at ddeunydd sy'n rhywiol gignoeth;
- yn hyrwyddo trais, gweithgaredd anghyfreithlon neu unrhyw fath o wahaniaethu;
- yn torri hawlfraint, hawl cronfa ddata neu nod masnach unrhyw berson arall;
- yn bygwth, aflonyddu, cynhyrfu, codi cywilydd, dychryn neu gythruddo unrhyw berson arall, neu'n debygol o wneud hynny;
- yn siarad o blaid, hyrwyddo neu gynorthwyo unrhyw weithgaredd anghyfreithlon;
- yn debygol o dwyllo unrhyw berson neu ei fod yn torri dyletswydd gyfreithiol sy'n ddyledus i drydydd parti (megis dyletswydd cyfrinachedd);
- yn amharu ar breifatrwydd rhywun arall neu'n achosi anghyfleustra neu bryder i unrhyw berson;
- yn cael ei ddefnyddio i ddynwared unrhyw berson, neu i gamliwio'ch hunaniaeth neu gysylltiad ag unrhyw berson; neu
- yn rhoi'r argraff mai ni sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r deunydd, os nad yw hyn yn wir.
CYMEDROLI
Os ydym ar unrhyw adeg yn defnyddio ein gwefan i ddarparu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol i ddefnyddwyr, bydd y darpariaethau cymedroli canlynol yn berthnasol:-
- byddwn yn hysbysu defnyddwyr a oes cymedroli ar waith, ac, os felly, a yw'r cymedroli'n cael ei ddarparu gan berson neu'n awtomataidd;
- os oes cymedroli ar waith, byddwn yn rhoi modd i chi gysylltu â'r cymedrolwr;
- er y byddwn yn gwneud ein gorau i asesu unrhyw risgiau y gallai gwasanaeth rhyngweithiol o'r fath eu peri, ni fyddwn dan unrhyw rwymedigaeth i'w gymedroli, ac rydym yn eithrio yn benodol unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod i unrhyw berson a achosir o’i ddefnyddio; a
- dylid goruchwylio plant bob amser wrth ddefnyddio'r gwasanaethau rhyngweithiol ar ein gwefan, p'un a yw gwasanaethau o'r fath yn cael eu cymedroli ai peidio.
TORRI’R POLISI HWN
Ymdrinnir ag unrhyw achos o dorri'r polisi defnydd derbyniol hwn yn yr un modd â thorri ein telerau defnyddio gwefanac rydym yn cadw'r hawl i gymryd unrhyw gamau eraill yr ydym yn eu hystyried yn rhesymol briodol, gan gynnwys cyfyngu ar eich defnydd o'n gwefan a/neu gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn. Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan unrhyw doriad o'r polisi defnydd derbyniol hwn.
DIWYGIADAU
Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd, oherwydd gallwn ddiwygio'r polisi defnydd derbyniol hwn ar unrhyw adeg. Efallai y byddwn hefyd yn newid neu'n diweddaru ein polisi defnydd derbyniol ar unrhyw adeg trwy hysbysiadau a gyhoeddir yn unrhyw le ar ein gwefan.