Polisi Defnydd Derbyniol

Polisi Defnydd Derbyniol

Dyma'r polisi defnydd derbyniol, sydd, ynghyd â'n telerau defnyddio gwefan, yn nodi'r telerau dan yr hyn yr ydym ni ReConnected Life Ltd, Rhif Cofrestru 9842605 a Chyfeiriad Cofrestredig The Coach House, Ealing Green, London, W5 5ER yn caniatáu ichi ddefnyddio ein gwefan https://tor.rasawales.org.uk/ (“gwefan”) p'un a ydych chi'n ymwelydd neu'n ddefnyddiwr cofrestredig. Dylid cyfeirio pob ymholiad at hello@reconnected.life. Darllenwch delerau'r polisi hwn yn ofalus, oherwydd trwy ddefnyddio ein gwefan rydych chi'n nodi eich bod chi'n cytuno i gydymffurfio â nhw ac i gael eich rhwymo ganddynt. 

DEFNYDDIAU O’N GWEFAN A WAHERDDIR

P'un a ydych chi'n ymwelydd neu'n ddefnyddiwr cofrestredig, rhaid i chi gydymffurfio â'n telerau defnyddio gwefan, a defnyddio ein gwefan at ddibenion cyfreithlon yn unig. Yn benodol, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan ar gyfer y defnyddiau a restrir (heb gyfyngiad) isod:-

  • unrhyw weithgaredd twyllodrus;
  • unrhyw weithgaredd sy'n torri unrhyw gyfraith neu reoliad cymwys, boed yn genedlaethol neu'n rhyngwladol
  • unrhyw weithgaredd a allai achosi neu arwain at niwed i blentyn o dan 18 oed;
  • anfon hysbysebu digymell neu gynnwys arall (sbam), neu ymrwymo i unrhyw drefniant i anfon deunydd o'r fath;
  • atgynhyrchu, gwerthu neu drin ein gwefan neu ei chynnwys yn groes i'n telerau defnyddio gwefan;
  • cyflwyno i'n gwefan yn fwriadol, neu drosglwyddo neu geisio trosglwyddo i unrhyw safle, cyfrifiadur neu rwydwaith arall, feirysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd, cod neu raglen arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol;
  • ceisio sicrhau mynediad heb awdurdod i'n gwefan, ein meddalwedd, ein gweinydd, neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'n gwefan; neu
  • ymosod ar ein gwefan trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth dosbarthedig.

CYFRANNU A RHYNGWEITHIO

Efallai y bydd ein gwefan yn cynnig cyfleusterau i ddefnyddwyr lanlwytho neu gyfrannu cynnwys neu ddeunydd arall, neu ryngweithio â defnyddwyr eraill. Wrth ddefnyddio'r cyfleusterau hyn, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw gyfraniad neu ryngweithio, hyd y gwyddoch, yn ffeithiol gywir, yn cynrychioli eich barn onest, ac nad yw'n torri unrhyw gyfraith neu reoliad cymwys.

Yn ogystal, rhaid i unrhyw gyfraniad neu ryngweithio beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd sydd (heb gyfyngiad):-

  • yn ddifenwol, yn anweddus, yn dramgwyddus, yn atgas neu'n ymfflamychol;
  • yn, neu’n cyfeirio at ddeunydd sy'n rhywiol gignoeth;
  • yn hyrwyddo trais, gweithgaredd anghyfreithlon neu unrhyw fath o wahaniaethu;
  • yn torri hawlfraint, hawl cronfa ddata neu nod masnach unrhyw berson arall;
  • yn bygwth, aflonyddu, cynhyrfu, codi cywilydd, dychryn neu gythruddo unrhyw berson arall, neu'n debygol o wneud hynny;
  • yn siarad o blaid, hyrwyddo neu gynorthwyo unrhyw weithgaredd anghyfreithlon;
  • yn debygol o dwyllo unrhyw berson neu ei fod yn torri dyletswydd gyfreithiol sy'n ddyledus i drydydd parti (megis dyletswydd cyfrinachedd);
  • yn amharu ar breifatrwydd rhywun arall neu'n achosi anghyfleustra neu bryder i unrhyw berson;
  • yn cael ei ddefnyddio i ddynwared unrhyw berson, neu i gamliwio'ch hunaniaeth neu gysylltiad ag unrhyw berson; neu
  • yn rhoi'r argraff mai ni sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r deunydd, os nad yw hyn yn wir.

CYMEDROLI

Os ydym ar unrhyw adeg yn defnyddio ein gwefan i ddarparu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol i ddefnyddwyr, bydd y darpariaethau cymedroli canlynol yn berthnasol:-

  • byddwn yn hysbysu defnyddwyr a oes cymedroli ar waith, ac, os felly, a yw'r cymedroli'n cael ei ddarparu gan berson neu'n awtomataidd;
  • os oes cymedroli ar waith, byddwn yn rhoi modd i chi gysylltu â'r cymedrolwr;
  • er y byddwn yn gwneud ein gorau i asesu unrhyw risgiau y gallai gwasanaeth rhyngweithiol o'r fath eu peri, ni fyddwn dan unrhyw rwymedigaeth i'w gymedroli, ac rydym yn eithrio yn benodol unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod i unrhyw berson a achosir o’i ddefnyddio; a
  • dylid goruchwylio plant bob amser wrth ddefnyddio'r gwasanaethau rhyngweithiol ar ein gwefan, p'un a yw gwasanaethau o'r fath yn cael eu cymedroli ai peidio.

TORRI’R POLISI HWN

Ymdrinnir ag unrhyw achos o dorri'r polisi defnydd derbyniol hwn yn yr un modd â thorri ein telerau defnyddio gwefanac rydym yn cadw'r hawl i gymryd unrhyw gamau eraill yr ydym yn eu hystyried yn rhesymol briodol, gan gynnwys cyfyngu ar eich defnydd o'n gwefan a/neu gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn. Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan unrhyw doriad o'r polisi defnydd derbyniol hwn.

DIWYGIADAU

Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd, oherwydd gallwn ddiwygio'r polisi defnydd derbyniol hwn ar unrhyw adeg. Efallai y byddwn hefyd yn newid neu'n diweddaru ein polisi defnydd derbyniol ar unrhyw adeg trwy hysbysiadau a gyhoeddir yn unrhyw le ar ein gwefan.

Taste of Recovery & MindBody Foundations Naid sydyn I Google